Rydyn ni’n Gapel rhestredig Gradd 1, sy’n cynnwys Canolfan Tabernacl Treforys sydd newydd ei chreu ar y llawr gwaelod isaf.
Mae Tabernacl Treforys wedi’i leoli yng nghanol tref Treforys ac mae wedi bod yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol a diwylliannol, ers ei greu ym 1872.
Dros y blynyddoedd mae Tabernacl Treforys wedi cynnal pob math o ddigwyddiadau arbennig, gydag ymddangosiadau gan bobl megis Ei Fawrhydi y Brenin Charles a’r bariton enwog, Bryn Terfel.
Mae’r bensaernïaeth wych a’r nodweddion dylunio cymhleth bob amser yn llwyddo i blesio ymwelwyr newydd â’r adeilad.