TABERNACL TREFORYS

“cadeirlan” y capeli

Oedfaon

Croesawn bawb yn gynnes i'r canolfannau addoli Cristnogol Cymraeg hyn.

Fel Eglwys Gristnogol Gymraeg, estynnwn i chi groeso twymgalon. Grŵp o bobl yn cyd-addoli yn y Gymraeg yn enw Crist ydym ni a hyderwn y byddwch yn profi ymdeimlad o berthyn i eglwys Gristnogol yn ein plith. Fel aelodau ystyriwn fod gofalu, cydymdeimlo a chyd-fyw'n hapus yn enw Crist yn genhadaeth bwysig. Bydd y gweinidog a'r eglwys yn falch i glywed am y rhai a fydd angen cymorth yn gorfforol neu'n ysbrydol pan fydd angen.

Ers rhai blynyddoedd bellach y mae Tabernacl, Capel yr Annibynwyr, Treforys, a Bethania, Capel y Presbyteriaid wedi gweithredu fel un ofalaeth ond ers i Gapel Bethania gau, mae’r aelodau wedi ymuno â Chapel y Tabernacl. Erbyn hyn rydyn ni wedi uno gyda Bethel, Sgeti a Triniti, Abertawe dan ofal y gweinidog sef y Parchg. Jill-Hailey Harries.

Y mae traddodiad a hanes cyfoethog i'r capel fel man addoli yn Nhreforys. Cynhwyswn yma fanylion am oedfaon a hefyd fanylion cyswllt. Yn y wefan hon byddwn yn ychwanegu gwybodaeth am achlysuron arbennig neu newidiadau mewn trefniadau o dro i dro.

Rydym yn hapus iawn i gael gofal ein gweinidog, Y Parch, Jill Hailey Harries. Mae hi’n gweinyddu'r Cymun ar ail Sul y mis yn y Tabernacl neu os nodir yn wahanol.

Yn ystod y cyfnod o dan rheolau COVID, cynhelir pob oedfa ar fore Sul am 10.30, yn festri’r Tabernacl. Cysylltwch ag Ysgrifenydd y Tabernacl os hoffech ddod i oedfa. Bydd rhaid i chi wisgo mwgwd yn ein hoedfaon.

Cynhwyswn fanylion cyswllt a threfn oedfaon isod:

Oedfaon am 10.30yb yn y Festri, oni nodwyd yn wahanol. Gwisgwch fwgwd, os gwelwch yn dda a rhowch wybod i’r Ysgrifenydd os hoffech fynychu.

Medi 5
Mrs Rhian Williams
Medi 12
Parch. Jill-Hailey Harries- Cymun
Medi 26
Sul y Cyfundeb- 10.00 Capel y Nant, Clydach/ Zoom
Hydref 3
Parch. Jill-Hailey Harries- Cymun 2.30yp
Hydref 10
David G John & Matthew Jenkins
Hydref 17
Mr Dewi Lewis
Hydref 24
Miss Aldyth Williams
Hydref 31
Parch. Huw Francis
Tachwedd 7
Mr Dewi Lewis
Tachwedd 14
Parch. Jill-Hailey Harries- Cymun
Tachwedd 21
Parch. Ryan Thomas
Tachwedd 28
Parch. Hywel Wyn Richards
Rhagfyr 5
Y Chwiorydd
Rhagfyr 12
Parch. Jill-Hailey Harries- Cymun
Rhagfyr 19
Oedfa’r Bobl Ifanc
Rhagfyr 25
Oedfa Bore Nadolig yng ngofal yr aelodau