TABERNACL TREFORYS

“cadeirlan” y capeli

Hanes

"Y capel mwyaf, y crandiaf a'r drutaf a adeiladwyd yng Nghymru" – disgrifiad Anthony Jones o'r Tabernacl, Treforys yn ei lyfr Welsh Chapels sy'n cynnwys yr adeilad eiconig rhestredig Gradd 1 fel llun y clawr. Gyda thwf diwydiant y cyfnod Fictoraidd, daeth cynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cwm Tawe isaf, ger porthladd Abertawe, wrth i weithwyr gwledig geisio gwaith yn y ffatrioedd tunplat a chopr niferus a sefydlwyd yn yr ardal. 'Roedd anghydffurfiaeth Cymraeg mewn bri: codwyd dwsin o gapeli yn Nhreforys yn unig a chwblhawyd y Tabernacl, a gynlluniwyd fel y capel delfrydol yn nhermau pensaernïaeth, ehangder a chyfleusterau, yn 1872 ar gost syfrdanol o £18,000. Mae llun prin o'r adeilad wedi'i orchuddio gan sgaffaldau pren wrth i'r gwaith gyrraedd gwaelod y tŵr o 160 troedfedd. Datblygwyd ei gynllun gan y gweinidog, Emlyn Jones, y pensaer John Humphrey a'r adeiladwr William Edwards. Aethant ar daith o gwmpas Prydain i weld y gorau o'r capeli diweddara cyn dychwelyd i greu cyfuniad o'u hoff elfennau.Er mai blaen yr adeilad â'i wyth colofn anferth sydd fwya' amlwg, mae'r dair ochr arall wedi'u cynllunio'n fanwl hefyd.Oddi mewn ceir arddangosfa o waith seiri coed mewn mahogani, gyda galeri'r côr yn disgyn yn serth tua'r pulpud a thri chasyn trawiadol i'r organ.

Disgrifiad papur cenedlaethol The Cambrian ohono oedd "yr unig nodwedd achubol yn yr ardal ddiwydiannol, man glas mewn diffeithwch". Bellach mae'r diwydiant wedi mynd, ond erys argraff yr adeilad, ei dŵr yn weladwy am filltiroedd, heb bylu.

Symudodd y gynulleidfa , ryw 800 yn 1872, i'r adeilad newydd o gapel cyfagos a oedd yn rhy gyfyng i'r gofyn. Yn dilyn bwrlwm Diwygiad 1904 chwyddodd aelodaeth y Tabernacl i 1059 yn 1910. Mae cynlluniau'r pensaer yn dangos mae'r bwriad oedd cadw enw'r capel gwreiddiol ar adeg y broses gynllunio, ond mae'r garreg-sylfaen yn cario'r enw Tabernacl. Dilynwyd gwaith arloesol Emlyn Jones gan weinidogaethau hir dau Gymro amlwg:31 o flynyddoedd (1915-1944) gan J.J.Williams y llenor ac Archdderwydd Cymru rhwng 1936 a 1938, a bron ugain mlynedd (1945 – 1964) gan yr awdur a'r hanesydd Trebor Lloyd Evans a frwydrodd yn galed i ddiwygio'r iaith Gymraeg ac i sefydlu ysgol Gymraeg gyntaf yr ardal.

Mae'r Tabernacl, a welwyd droeon ar raglenni megis Songs of Praise a Dechrau canu, Dechrau canmol yn dal yn ganolfan grefyddol a diwylliannol wrth iddo ddathlu ei 140ed penblwydd.Mae ymwelwyr wedi cynnwys aelodau'r Teulu Brenhinol a chenedlaethau o bregethwyr amlwg, cantorion ac organyddion o fri. Ffurfiwyd Côr y Tabernacl yn 1876, mae'n un o gorau hiraf-hoedlog Cymru ac yn dal at draddodiad o roi cyngherddau i gyfeiliant cerddorfa. Bu Penfro Rowlands, cyfansoddwr yr emyndôn fyd-enwog Blaenwern, yn arweinydd 1892-1919. Arweiniodd ei olynydd, Edgar Hughson, ystod ryfeddol o 24 gwaith corawl mewn 49 cyngerdd yn ystod ei gyfnod hir fel organydd a chôrfeistr, a sefydlu ymgyrch i gael organ newydd dair-allweddell o 40 stop gan Hill, Norman & Beard, a osodwyd yn 1922.Gyda chymorth grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, adferwyd yr offeryn gan Harrison & Harrison o Durham yn 1998. Recordiwyd yr organ yn dilyn hyn mewn datganiad o ffefrynnau Fictoraidd ac Edwardaidd gan yr organydd presennol, Huw Tregelles Williams, ar SAIN SCD 2260 catalog@sain.wales.com

Er mai 144 yw rhif yr aelodau bellach, maent wedi gweithio'n ddiflino am ugain mlynedd i gyfartalu cymorth-grant gan CADW, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, ac felly i sicrhau strwythur adeilad Fictoraidd gwych i genedlaethau'r dyfodol.Ers 1993 mae gwaith adfer wedi'i gwblhau mewn tair rhan: mae'r olaf, wedi'i gorffen yn ddiweddar, wedi cynnwys ochrau deheuol a dwyreiniol yr adeilad, gwaith ar y cloc a phigyn y tŵr, gwaith trydanol ac addurno mewnol. Yn y cyfamser mae'r capel a'i ystafelloedd niferus yn croesawu grwpiau diwylliannol lleol, ymarferion wythnosol gan rai o gorau'r ardal, gweithgareddau i'r anabl a'r di-freintiedig, ac, wrth gwrs, gwasanaethau rheolaidd yr eglwys.

Newid cyflym ym mhatrymau cymdeithas a ysgogodd adeiladu'r Tabernacl. Heddiw, pan fo natur y newid hwnnw'n wahanol ond yn dal yn gyflym, mae'r adeilad amlwg hwn yn ein hatgofio'n bwerus am werthoedd Cristnogol, cymdeithasol a diwylliannol.

Sketch of Chapel
John Humphrey, 1870
Sketch of Chapel
John Humphrey, 1870