David Gwyn and Pamela John, Enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled 2025 Winners and Heledd Cynwal. Copyright Swansea Bay News 2025.Cwpl o Dreforys yn ennill gwobr yr Urdd am eu hymroddiad i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
-
by
user
Cwpl o Dreforys yn ennill gwobr yr Urdd am eu hymroddiad i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
Mae cwpl o Dreforys wedi cael eu cydnabod gan yr Urdd am eu gwaith yn hybu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ymhlith plant a phobl ifanc yr ardal.
Mae David Gwyn a Pamela John o Dreforys wedi’u cyhoeddi fel enillwyr Gwobr John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a’r Fro 2025.
Yn cael eu hadnabod fel pileri’r gymuned leol, mae’r pâr priod wedi ymroi’n ddiflino dros y degawdau i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ymhlith plant a phobl ifanc yr ardal. Mae Gwobr John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn cydnabod gwirfoddolwyr rhagorol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. O ystyried cyfraniad David a Pamela, nid yw’n syndod mai nhw yw enillwyr eleni.
Yn nechrau’r 1960au, sefydlwyd ‘Aelwyd yr Urdd Treforys’ ganddynt yn festri Capel y Tabernacl yn Nhreforys. Am y tro cyntaf, rhoddodd gyfle i bobl ifanc yr ardal gymdeithasu drwy’r Gymraeg. Roedd yn lle llawn bwrlwm a brwdfrydedd, ac o dan arweiniad David a Pamela, roedd yr ‘aelwyd’ yn cystadlu’n gyson yn Eisteddfod yr Urdd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Ŵyl Gerdd Dant. Roedd hefyd yn cynnal nifer o Noson Lawen (cyngherddau adloniant ysgafn) ledled de Cymru.
Y cyflwynydd Heledd Cynwal gafodd y fraint o gyhoeddi’r newyddion yng Nghapel y Tabernacl, Treforys, ddoe.
Helpu pobl ifanc lleol i “ddarganfod eu Cymreictod”
Ymysg dros 100 o aelodau ‘Aelwyd yr Urdd Treforys’ a fyddai’n cyfarfod bob nos Wener roedd y cerddor a’r cyfansoddwr, Geraint Davies (o’r grŵp gwerin, Mynediad am Ddim), a’r diweddar ganwr ac actor, Dewi Pws. Dywedodd yr olaf unwaith mewn cyfweliad iddo “ddarganfod ei Gymreictod” yn bymtheg oed yn Aelwyd yr Urdd yng nghapel Treforys.
Meddai’r cerddor Geraint Davies (a chyfansoddwr ‘Hei Mistar Urdd’): “Roeddwn i’n bymtheg oed pan ymunais ag Aelwyd Treforys yn 1968 a heb os newidiodd hynny fy mywyd. Roedd David Gwyn a Pam John wedi bod wrth y llyw ers peth amser a byddai am flynyddoedd lawer wedyn.
“Roedd yna ddrws agored i Gymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd ar adeg pan oedd addysg uwchradd yn Abertawe i gyd yn Saesneg.Dyma’r gwrthwenwyn – cael ein trochi yn y Gymraeg bob nos Wener ac weithiau ar ddydd Sadwrn hefyd. Y bonws mawr oedd bod gan David drwydded yrru bws, felly fe’n galluogodd i deithio’n gyson i aelwydydd eraill, i ddigwyddiadau cenedlaethol, a chyn belled i ffwrdd â’r Alban yn 1970au. Rwy’n un o lawer a wnaeth hynny.
“Maen nhw dal yn weithgar flynyddoedd yn ddiweddarach – yn cynnal gweithgareddau ‘Cymdeithas Gymraeg Treforys’. Diolch a llongyfarchiadau David a Pam!”
Cyn ymddeol, roedd y ddau yn gweithio ym myd addysg ac wrth eu bodd yn cefnogi a hyrwyddo pobl ifanc yr ardal. Bu David yn Bennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a Pamela yn athrawes yno. Mae’r ddau hefyd wedi bod yn weithgar ar amrywiol bwyllgorau lleol ac ar is-bwyllgorau’r Eisteddfod ac wedi codi arian yn lleol. Buont yn dathlu eu Priodas Ddiemwnt yr haf diwethaf.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Dyma ddau unigolyn hoffus a phoblogaidd sydd wedi cyfrannu cymaint at Gymreictod yr ardal lle cynhelir yr Eisteddfod eleni. Maent yn gwbl haeddiannol o Wobr John a Ceridwen Hughes, Uwchaled 2025. Mae arnom angen gwirfoddolwyr a phobl fel David a Pamela yn ein hardaloedd lleol: pobl ifanc sy’n barod i roi o’u hamser a’u cyfraniad gwerthfawr a chysegredig. rydym yn ddiolchgar am eu gwaith diflino dros y degawdau.”
Bydd David a Pamela yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025. Rhoddir Gwobr John a Ceridwen Hughes, Uwchaled gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni, John a Ceridwen Hughes, a fu’n weithgar iawn ym myd gwaith ieuenctid.