Ein Hanes.
Stori Capel Mawreddog Cymru.

"Y capel mwyaf ei faint, mwyaf mawreddog a drutaf i’w adeiladu yng Nghymru"

Athro Anthony Jones, 1996

Adeiladwyd ar Gyfer y Bobl, Wedi'i Godi gan Gymuned.

“Y capel mwyaf ei faint, mwyaf mawreddog a drutaf i’w adeiladu yng Nghymru” yw disgrifiad yr Athro Anthony Jones o’r Tabernacl yn ei lyfr awdurdodol ar gapeli Cymru a gyhoeddwyd ym 1996, yn ystod y degawd pan gynhaliodd CADW, asiantaeth gadwraeth Llywodraeth Cymru, ymarfer rhestru cynhwysfawr a ddyfarnodd statws Gradd 1 i’r adeilad.

Yn sgil diwydianeiddio yn Oes Fictoria bu twf cyflym yn y boblogaeth yng ngwaelod Cwm Tawe, yn agos at borthladd Abertawe, wrth i weithwyr gwledig o bob rhan o Gymru a thu hwnt chwilio am waith yn y gweithiau tun a chopr niferus a sefydlwyd yn yr ardal.

Roedd digon o fynd ar anghydffurfiaeth Gymreig a’i gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol a dirwestol cysylltiedig; adeiladwyd dwsin o gapeli yn ardal Treforys yn unig yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cwblhawyd y Tabernacl, a gynlluniwyd i fod y ffurf derfynol ar y capel Cymreig o ran pensaernïaeth, capasiti eistedd a chyfleusterau, yn 1872 ar gost syfrdanol o £18,000.

Er bod diwydianwyr lleol wedi cyfrannu dynion a deunyddiau at yr ymdrech, mae’r gost yn cyfateb i oddeutu £2.6m yn arian heddiw. 

O Libanus Newydd i Dirnod Cenedlaethol.

Datblygwyd y dyluniad gan dri ffigwr amlwg yn yr ardal: y gweinidog Emlyn Jones, y pensaer John Humphrey a’r adeiladwr Daniel Edwards, a oedd wedi teithio’n eang ledled Prydain i weld y capeli mwyaf newydd a gorau. Ar ôl dychwelyd, dyma nhw’n cydosod gludwaith o nodweddion pensaernïol a oedd wedi creu’r argraff fwyaf arnynt. Mae’r ffasâd sy’n wynebu’r gorllewin, a’i wyth colofn a bwa Corinthiaidd, yn amlwg, ond dyluniwyd hefyd yn fanwl y golygon i’r Gogledd a’r De. I’r Dwyrain, roedd llwyfan yn estyn allan yn gartref i’r organ wreiddiol ar lefel y galeri a mannau ategol ar y ddau lawr oddi tano. Mae tu mewn y capel, sy’n arddangosfa drawiadol o gelf y saer, o’r un safon â’i nenfwd cromennog addurnedig iawn, galeri’r côr disgynnol a lleoliad canolog y pulpud.

Adeg ei agor, disgrifiwyd yr adeilad yn y wasg genedlaethol yn ” the one great redeeming feature in that manufacturing area “. Mae’r diwydiant trwm wedi diflannu erbyn hyn ond mae effaith yr adeilad, ei feindwr sy’n weladwy am filltiroedd o gwmpas, yn parhau’n bwerus.

Symudodd aelodau’r eglwys, a oedd oddeutu 800 yn 1872, i’r adeilad newydd o gapel Libanus gerllaw, a oedd yn dyddio o 1782, oherwydd diffyg lle; yn dilyn cynnwrf Diwygiad 1904, cyrhaeddodd aelodaeth y Tabernacl uchafbwynt o 1059 yn 1910. Mae’r lluniadau pensaernïol yn dangos y byddai’r adeilad yn cael ei enwi yn Libanus Newydd, gan ddiweddaru a chadw enw’r capel blaenorol, ond Tabernacl yw’r enw ar y garreg sylfaen. Dilynwyd gwaith arloesol Emlyn Jones gan weinidogaethau hir gan ffigurau cenedlaethol amlwg: J.J. Williams (1915-1944) bardd ac Archdderwydd Cymru 1936-1938, a Trebor Lloyd Evans (1945-1964) a weithiodd yn ddiflino i adfywio’r Gymraeg, a oedd yn dirywio’n gyflym ar y pryd, sefydlodd Ysgol Lôn las, yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn yr ardal ac, yn y Tabernacl, Aelwyd Treforys, grŵp gweithgareddau Cymraeg a oedd yn gysylltiedig ag Urdd Gobaith Cymru.

Yr Organ, y Côr, a’r Gofalwyr

Mae Côr y Tabernacl, a sefydlwyd yn 1876, yn cynnal traddodiad hir o gyngherddau yn y capel. Cyfansoddodd Penfro Rowlands, ei arweinydd 1892-1919, yr emyn dôn Blaenwern, sy’n adnabyddus ledled y byd Cristnogol ac a ganwyd ar sawl achlysur cenedlaethol. Arweiniodd ei olynydd, Edgar Hughson, 24 o brif weithiau corawl mewn 49 o gyngherddau blynyddol yn ystod cyfnod hir a lansiodd apêl am organ 3 bysellfwrdd newydd gynhwysfawr â 40 stop i gyfeilio cynulleidfaoedd a chorau mawr yn ddigonol.

Ar sail manyleb ar raddfa i gyd-fynd â’r adeilad gan Herbert Ellingford, Organydd yn Neuadd Sant Siôr, Lerpwl, ac wedi ei adeiladu gan gwmnïau newydd William Hill & Son, Norman & Beard Ltd. ar gost o £6,000, mae ei 2310 o bibellau wedi’u lleoli mewn tri chas a rhyngddynt mae dwy ffenestr wydr lliw er cof am aelodau’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Fe’i hagorwyd gan Ellingford ym mis Rhagfyr 1922 ac mae’n nodwedd amlwg y tu mewn i’r capel. Yn dilyn hynny, ymwelwyd â’r lle gan genedlaethau o bregethwyr, cantorion a datganwyr organ blaenllaw, cynhaliodd yr adeilad y Gymanfa Ganu genedlaethol a fynychwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Charles, Tywysog Cymru, yn rhan o’i ddathliadau Arwisgo yn1969. Dan arweiniad Alun John, gyda chyfeiliant Eurfryn John, organydd y Tabernacl, fe’i darlledwyd yn fyw gan y BBC, a dyfarnwyd statws Disg Aur i’r recordiad.

Yn 1990, ar ôl cau’r capel a fynychai, ymrestrodd John Thomas yn aelod o’r Tabernacl. Yn wneuthurwr patrymau dyfeisgar wrth ei alwedigaeth, ac yn berchen ar ei ffatri ei hun yng Nghlydach gerllaw, dangosodd ddiddordeb bywiog a gwybodus yn yr adeilad, gan gomisiynu arolwg a ddatgelodd i ba raddau yr oedd ei bensaernïaeth wedi dioddef o effeithiau diwydiant trwm. Roedd y dail ar ben y colofnau Corinthiaidd, yn arbennig, wedi mynd yn beryglus o fregus o ganlyniad i ddyddodion cemegol. Lansiwyd apêl, glanhawyd ac adferwyd y ffasâd, cliriwyd gofod y to o ddeunyddiau gwrth-losgi a osodwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra rhoddwyd llechi to Cymreig newydd yn lle llawer o ddeunyddiau gwreiddiol a oedd wedi’u difrodi.

Yn yr un modd, roedd yr organ, a oedd yn perfformio’n ddibynadwy ers 70 mlynedd, yn dangos arwyddion cynnar o fethiant. Gyda chymorth grant mawr gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cafodd ei adfer yn ffyddlon gan Harrison & Harrison o Durham yn1998, ac adnewyddwyd ei diwbiau niwmatig a’i gydrannau lledr sy’n dal i weithredu, a oedd mor frau â memrwn erbyn hynny. Dathlwyd yr adferiad mewn datganiad gan Thomas Trotter, Organydd Dinas Birmingham, yr oedd ei ddau ragflaenydd, George Cunningham a George Thalben-Ball, hefyd wedi canu’r offeryn yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd.

Croesawu Pawb: Capel wedi'i Ail-ddychmygu

Pan gafodd yr adeilad ei restru, ategwyd ei raglen barhaus o waith adfer hanesyddol drwy fabwysiadu cyfundrefn arolygu pensaernïol pum mlynedd yn 2009 a phenodi pensaer cadwraeth blaenllaw, Stefan Horowskyj. Roedd rhaglen o waith gwerth £400,000 a gyflawnwyd yn 2010-2013 yn cynnwys adfer y golwg dwyreiniol, ailwampio’r system ddraenio, ailosod pibellau lawr plastig mewn haearn bwrw fel y’i gosodwyd yn 1872, a gwaith ar y meindwr gan gynnwys ailosod ei faen capan a ddifrodwyd. Yn ystod y broses hon daeth y chwedl, bod merch yr adeiladwr Daniel Edwards wedi dringo’r sgaffaldau pren i osod darn arian chwe cheiniog o dan garreg y pinacl, yn realiti. Cafodd darn arian £2 newydd, wedi’i ysgythru â phroffil yr adeilad, ei fathu a’i osod yn yr un safle, a’r darn arian gwreiddiol a’r maen capan wedi’i gracio wedi’u cadw. Roedd rhaglen pum mlynedd 2014 yn cynnwys ailaddurno’r nenfwd a sgarffio fframiau ffenestri a ddifrodwyd gan y tywydd, gan ddisodli paneli gwydr melyn gwreiddiol a gollwyd dros y blynyddoedd. Yn 2019 disodlwyd winsiau a weithredwyd â llaw ac a ostyngai ganhwyllyron 1872, a daniwyd yn wreiddiol â nwy, gan rai cyfwerth a weithredir o bell, uwchraddwyd y goleuadau a llwybrau cerdded yn y to i’r safonau Iechyd a Diogelwch cyfredol.

Yn erbyn cystadleuaeth ddwys, y Tabernacl a enillodd y bleidlais am hoff addoldy Cymru yn arolwg ar-lein cenedlaethol Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn 2017. Yn driw i ethos amhunanol Cristnogol y gynulleidfa, rhoddwyd elw o’r cyngerdd dathlu dilynol i Dŷ Olwen, yr hosbis yn Ysbyty Treforys.
Er gwaethaf parch eang at yr adeilad a fynegwyd gan filoedd o bleidleisiau a fwriwyd yn yr arolwg hwnnw, er gwaethaf ymroddiad gweinidogion deinamig a thalentog ers 1964 (Dewi Eirug Davies, John Watkin, Denzil James ac Ieuan Davies) mae’r gynulleidfa yn y Tabernacl wedi dioddef yr un patrwm o ddirywiad sy’n rhy gyfarwydd ledled Cymru wrth i batrymau cymdeithasol, teuluol a manwerthu ar y Sul newid. Yn eironig, flwyddyn cyn y bleidlais ar-lein, roedd yr Ymddiriedolwyr wedi penderfynu bod angen ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn wyneb niferoedd sy’n gostwng a phroffil oedran a oedd yn cynyddu. Comisiynwyd Astudiaeth Opsiynau ar gyfer cynaliadwyedd yr adeilad yn y dyfodol yn 2016; ei brif argymhelliad oedd aildrefnu’r mannau festri helaeth yn ganolfan gymunedol bwrpasol. Gwelwyd y cynlluniau pensaernïol, ynghyd â delweddau trawiadol o’r rhaglen adfer, gan Ei Uchelder Brenhinol Charles, Tywysog Cymru, pan ailymwelodd â’r adeilad yn 2019, gan nodi 50 mlynedd ers ei Arwisgo a dyfarnu statws Dinas i Abertawe. Mae partneriaeth amhrisiadwy â Chyngor Abertawe, arbenigedd ei Dîm Cyllid Allanol yn arbennig, wedi cynhyrchu £1.2m mewn cymorth grant gan ffynonellau Cymru a San Steffan i wireddu’r weledigaeth.

Mae newidiadau strwythurol mawr yng nghyd-destun adeiladau rhestredig Gradd 1 yn gofyn am ymgynghori a thrafod hir gyda chyrff statudol sy’n rhoi Caniatâd Adeiladu Rhestredig. Roedd y tîm, dan arweiniad y pensaer Amanda Needham a Jacqualyn Box o Gyngor Abertawe, wedi cwblhau’r rhagofynion hanfodol hyn mewn pryd ar gyfer dathlu pen-blwydd yr adeilad yn 150 oed a chanmlwyddiant ei organ ar ddechrau mis Rhagfyr 2022. Mewn gwasanaeth o fawl, dan lywyddiaeth y gweinidog presennol, y Parchedig Jill-Hailey Harries, ymunodd corau lleol a chantorion Cymraeg ar draws De Cymru â’r gynulleidfa mewn partneriaeth â thîm Dechrau Canu ar S4C a recordiodd y digwyddiad ar gyfer rhifyn estynedig o’r rhaglen a oedd yn cyfuno elfennau cerddorol a dogfennol.

Yn y festri, dechreuodd arbenigwyr adfer treftadaeth waith a oedd yn cynnwys dymchwel waliau mewnol yn ofalus ym mis Ionawr 2023, gan gwblhau Cam 1 ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Ar ôl seibiant o 4 mis i ddarparu ar gyfer amserlenni grantwyr, cyflawnwyd Cam 2, sef y cam ail-gyflunio a gosod, erbyn Ebrill 2024. Dilynodd cyfnod lle gwahoddwyd darpar ddefnyddwyr i weld y canlyniad gorffenedig, gan gynnwys cyfleusterau anabl, aerdymheru, mannau o wahanol feintiau sy’n cyfuno nodweddion gwreiddiol â dyluniad minimalaidd a chegin o fanyleb uchel. Agorwyd Canolfan y Tabernacl, fel y gelwir y llawr gwaelod isaf bellach, yn swyddogol gan y bariton Cymreig o fri rhyngwladol, Syr Bryn Terfel ar 23 Tachwedd, 2024, ac yntau’n sôn am ei ymddangosiadau niferus yng nghyngherddau’r Tabernacl a datgan ei gred bod defnydd cymunedol o fannau hanesyddol yn meithrin ymdeimlad o le, perthyn a chydlyniant cymunedol.

Mae gweinidogaeth Gristnogol ar yr ystyr ehangaf, a’i gwerthoedd wedi’u mynegi mewn geiriau, cerddoriaeth a rhoddion elusennol, bob amser wedi bod yn ganolog i’r gynulleidfa sy’n addoli’n wythnosol ym mhrif adeilad Treforys. Mae’r cyfle a gynigir gan y cyfleusterau newydd i ehangu gweinidogaeth ymhellach mewn cymuned sy’n newid yn gyflym gydag ystod o anghenion cymdeithasol i’w groesawu ac yn gam angenrheidiol. Wrth i ni symud ymlaen, cynllunnir cam pellach o welliannau a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a CADW gyda phwyslais arbennig ar wella mynediad i’r anabl i awditoriwm y capel at ddibenion addoli a chyngherddau.

Cefnogwch genhadaeth gymunedol Tabernacl Treforys

Croeso.

Dewiswch eich dewis iaith.

Welcome.

Please select your preferred language.