TABERNACL TREFORYS

“cadeirlan” y capeli

Y Rhaglen Adfer

Yn dilyn treiddiad glaw i'r wal ddeheuol, grisiau'r galeri a'r to yn 1993, caed archwiliad pensaernïol a amlygodd yr angen i lansio rhaglen adfer ar adeilad a hawliodd ond trwsio cyffredin am dros ganrif.

Sefydlwyd Cronfa Apêl a'i lansio gyda chyfres o gyngherddau gan artistiaid fel Bryn Terfel, Côr Orffiws Treforys ac eraill sydd wedi perfformio'n rheolaidd yn y Tabernacl.Cafwyd cymorth ariannol gan nifer o fusnesnau lleol, yn nodedig gan Sefydliad Jane Hodge, ac wrth gwrs gan CADW a Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith wedi'i gyflawni mewn tair rhan:

  1. 1995-1997. Tô newydd,adfer blaen y capel a'r colofnau, ail beintio'r grisiau oddi mewn a gosod pibau a blychau-glaw haearn newydd fel yn 1872.
  2. 1997- 1998. Adfer organ dair-allweddell Hill, Norman & Beard gan gadw'n ffyddlon i'w chynllun gwreiddiol. Adnewyddu peirianwaith niwmatig, glanhau 2407 o bibau ac ail-adeiladu'r consol yng ngweithdy Harrison & Harrison yn Durham.Wedi'r gwaith enillodd yr offeryn Dystysgrif Organ Hanesyddol gan Gymdeithas Astudiaethau Organ Prydain.
  3. 2010 – 2012, Adfer waliau a ffenestri ochrau deheuol a dwyreiniol gan gynnwys gwydr lliw. Pwyntio pigyn y tŵr ac adnewyddu'r garreg binacl, adnewyddu ffrâm y gloch a'r wifren fellt a diweddaru'r sustem drydanol drwy'r adeilad i gwrdd â'r gofynion presennol.

Mae'r gynulleidfa a'r gymuned wedi codi £603,000, sef 60% o'r gost, gyda grantiau CADW yn cynnal y gweddill.

Renovation in 1995
Gwaith adfer yn 2005
Renovation in 2011
Gwaith adfer yn 2011